Ynglyn â fi

Cefais fy ngeni ar yr 20fed o Fedi 1980 yn Ysbyty Dewi Sant Bangor. Rwyf yn unig blentyn, ac yn hynod lwcus fod gen i ddau riant hynod o gefnogol a chariadus - Angharad Anwyl, un o ferched Maldwyn a Vaughan Hughes sydd yn Fochyn Môn. Cefais blentyndod hapus iawn, gan dreulio fy ngwyliau ysgol yn bennaf ar ffermydd gan hyd yn oed helpu i ddangos defaid mewn amryw o sioeau amaethyddol!
Mynychais Ysgol Gynradd Talwrn, ac yna Ysgol David Hughes Porthaethwy. Fy hoff bynciau yn yr ysgol oedd Cymraeg, Saesneg, Hanes, Cerddoriaeth a Drama. Fy uchelgais - er mawr pryder i fy athrawes Gyrfaeoedd - oedd bod y ferch gyntaf i fod yn Brif Weinidog Cymru annibynol: uchelgais sydd ddim cweit mor orffwyll ers i'r Cynulliad gael ei sefydlu!
Fy hobiau wrth dyfu i fyny oedd siarad cyhoeddus, actio (roeddwn yn aelod o Ysgol ddrama Glanaethwy), ysgrifennu a hefyd canu'r piano, clarinet a'r delyn.
Fe es i wedyn ymlaen i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod Dulyn. Roedd y bedair blynedd a dreuliais yno yn gwneud fy ngradd y rhai gorau fy mywyd, ac yn sicr wedi helpu i lunio ac aeddfedu fy ngwleidyddiaeth yn fawr. Roeddwn yn Olygydd cylchgrawn gwleidyddol y coleg, Miscellany , Cadeirydd gorsaf radio y coleg - Trinity FM a hefyd yn ymwneud yn helaeth gyda'r Undeb Myfyrwyr. O'r herwydd, cefais fy ethol yn Swyddog Sabathol yn yr Undeb gan fod yn Swyddog Addysg yn 2003-2004. Fe es i wedyn ymlaen i fod yn Swyddog Addysg Cenedlaethol Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol Iwerddon yn 2004-2005. Y ddwy flynedd yma wnaeth ddatblygu fy niddordeb mewn polisi addysg ynghyd a chydryddoldeb o ran mynediad i addysg. Roeddwn yn aelod o nifer o bwyllgorau llywodraeth Iwerddon oedd yn ymwneud ag addysg, gan hyd yn oed ddod yn un o Bologna Promoters Iwerddon gan gynrychioli'r wlad mewn nifer o gynhadleddau Ewropeaidd yn ymwneud ag addysg.
Fe ddychwelais i Gymru yn 2005 gan gwbwlhau MA mewn Hanes Canoloesoedd yn Mhrifysgol Bangor. Cyflwynais raglen deledu o'r enw Waterworld, cyn symud i Lundain i weithio yn San Steffan i Blaid Cymru, yn gyntaf fel ymchwilydd ac yna fel Swyddog y Wasg a Gwleidyddol y grwp seneddol. Roeddwn wrth fy modd gyda'r swydd, a dysgais lawer o bethau gan yr Aelodau Seneddol. Roedd Elfyn Llwyd yn arbennig o ddylanwadol, ac fe greodd argraff arna'i gyda'i ymroddiad a'i frwdfrydedd at y swydd. Ef wnaeth fy annog i redeg ym Maldwyn ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2010, ac am hynny, rwyf yn hynod ddiolchgar. Roedd yn brofiad gwych rhedeg yn erbyn Lembit Opik a Glyn Davies, ac roeddwn yn hapus iawn ein bod wedi llwyddo i gael y canlyniad gorau erioed i'r Blaid mewn etholiad cyffredinol ym Maldwyn, yn enwedig a hithau wedi bod yn noson siomedig i'r blaid ar y cyfan.
Pan mae gen i amser sbar rwyf yn mwynhau dal i fyny gyda fy ffrindiau, darllen llyfrau hanes neu cylchgronau trashy, mynd i'r gym, ysgrifennu a blogio. Rwyf hefyd yn aelod blaenllaw o grwp ymchwil Plaid Cymru gyda cyfrifoldeb arbennig ynglyn ag addysg. Fy ngobaith ydi cael fy ethol fel Aelod Cynulliad eleni, a chanolbwyntio'n bennaf ar faterion gwledig, polisi addysg ynghyd a threftadaeth a diwylliant. Rwyf yn angerddol ynglyn â gwleidyddiaeth, a fedra'i ddim dychmygu unrhywbeth gwell na cynrychioli ardal dwi'n ei charu a chwarae rhan flaenllaw yn adeiladu Cymru gryfach ac annibynol yn y dyfodol.




