Ymgyrchoedd
Gweler isod fanylion ynglŷn â rhai o'r meysydd yr hoffwn fod yn canolbwyntio arnynt pe byddwn ddigon lwcus i gael fy ethol. Dewch i gysylltiad os hoffech gefnogi unrhyw un ohonynt, neu os oes gennych syniadau ynghyn a phynciau yr hoffech fy ngweld yn rhoddi sylw iddynt.
Datblygu economi Cefn Gwlad
Heb os, mae angen datblygu economi Cymru Wledig. Nid oes digon o swyddi i gadw'n pobl ifanc yn yr ardal, ac o'r herwydd, mae'r boblogaeth yn heneiddio. Credaf mai'r unig ffordd i sicrhau dyfodol Cymru ydi drwy ddatblygu economi werdd a chynaliadwy, ynghyd a datblygu twristiaeth yn yr ardal. Rydym angen gweledigaeth bendant a strategaeth gilr er mwyn llwyddo, gyda pwyslais yn cael ei roddi ar farchnata'r holl bethau sydd yn gwneud Cymru yn unigryw a hybu'r cryfderau. Rhaid hefyd sicrhau bod y sylfaen priodol yno - megis cefnogaeth i fusnesau bach, trafnidiaeth gyhoeddus gwell, band eang ar gael i bawb ac yn y blaen - er mwyn cefnogi cynlluniau o'r fath.
Sefyll i fyny dros ein Henoed
Mae poblogaeth ein hardaloedd gwledig yn mynd yn hyn, a byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein henoed yn cael eu trin gyda'r parch y maent yn ei haeddu ac yn derbyn y gwasanaethau y maent eu hangen. Byddwn yn gweithio gydag aelodau eraill Plaid Cymru i sicrhau pensiwn teg y gall pawb fforddio byw arno. Mae'n fy ngwylltio i feddwl bod cymaint o'n henoed yn marw bob blwyddyn gan nad ydynt yn medru fforddio i gynhesu eu tai yn ddigonol yn y gaeaf, a byddwn yn ymgyrchu i gael gwared o dlodi tanwydd.
Mae myndiad i wasanaethau sylfaenol hefyd yn rhan o hyn, a byddwn yn ymgyrchu i gadw gwasanaethau lleol. Byddaf hefyd yn ymgyrchu ar gyfer gwell trafnidiaeth cynhoeddus, i sicrhau nad yw'n henoed yn cael eu hynysu yn ein cymunedau gwledig. Maent yn haeddu cefnogaeth, a byddwn yn ymladd dros eu hawliau.
Sicrhau dyfodol i'n plant
Mae ariannu ysgolion yn bwnc llosg mewn nifer o ardaloedd a byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol a'r ysgolion i sicrhau bod y gwasanaeth pwysig hwn yn cael yr arian angenrheidiol. Fel AC Plaid Cymru, byddwn yn ymladd am setliad ariannol gwell i Gymru o San Steffan a fyddai wedyn yn sicrhau mwy o arian ar gyfer awdurdodau lleol. Credaf mai addysg yw'r allwedd ar gyfer sicrhau datblygiad economi cefn gwlad, ac y byddai torri gwasanaethau yn andwyol.
Amddiffyn gwasanaethau lleol
Oherwydd natur wasgaredig y boblogaeth, nid yw pob gwasanaeth ar gael yn hawdd i bawb. Byddwn yn gweithio yn galed i sicrhau parhad i'r gwasanaethau sydd eisoes ar gael, megis swyddfeydd post, gwasanaethau iechyd ynghyd ag ymchwilio sut y gellid datblygu mwy o wasanaethau. Mae'n gyfangwbwl annerbyniol bod y rhai mwyaf bregus o fewn ein cymdeithas - yr ifanc, y rhai sal a'r henoed - ddim yn medru cael mynediad at wasanaethau sylfaenol. Mae nifer yn ddibynol ar deuluoedd a ffrindiau i'w helpu i gyrraedd y gwasanaethau, gan nad yw trafnidiaeth cynhoeddus yn ddigon effeithiol. Rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau nad yw'r rhai sydd yn byw yn ein cymunedau gwledig yn cael eu hesgeluso, a byddwn yn rhoi llais i'r rhai sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu gan y rhai sydd yn gwneud penderfyniadau.




