English   |   Cymraeg

Geiriau pobl eraill ynglyn a Heledd

Yr hyn mae eraill wedi ei ddweud ynglyn a Heledd.

 

Does gen i ddim amheuaeth y byddai hi'n aelod seneddol gwych i Sir Drefaldwyn a byddai yn faint i'w chroesawu fel aelod o dim seneddol Plaid ac fel cymydog seneddol.

Elfyn Llwyd MP/ AS

Mae Heledd yn un o arweinyddion y genhedlaeth ifanc yng Nghymru. Mae'n  ddeallus, yn frwdfrydig, yn gallu  gwrando ac mae ganddi ddawn siarad hynod effeithiol - sef yr union sgiliau  sydd eu hangen mewn Aelod Seneddol. Bydd ei phrofiad o weithio yn Nhy'r Cyffredin yn golygu ei bod eisioes wedi cyflawni rhan allweddol o'r prentisiaeth ar gyfer gwaith AS.

 Mae Heledd, fel minnau, yn falch o'i gwreiddiau teuluol ym Maldwyn;  yn adnabod y sir ac yn parchu ei gwerthoedd. Mae'n deilwng o'ch cefnogaeth ac yn un a fydd yn gennad dibynadwy dros bobl Maldwyn ar bob achlysur

Dafydd Wigley, Plaid Cymru's Hononary President

Mae’n bleser gennyf gefnogi Heledd Fychan, sydd yn ymgeisydd ifanc, brwdfrydig a gweithgar ac sydd hefo cysylltiadau teuluol cryf â’r etholaeth.  Mae ganddi’r cymwysterau gorau posibl i wasanaethu Maldwyn fel Aelod Seneddol.

Ieuan Wyn Jones AM/ AC, Arweinydd Plaid Cymru - Plaid Cymru's Leader

Heledd Fychan is one of the party's brightest sparks.

Betsan Powys, BBC Wales' Political Editor

Rwyf yn falch bod Heledd am ymladd yn Sir Drefaldwyn yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Mae'r ardal hon angen AS fel Heledd sydd yn gweithio'n galed, a sydd yn hollol ymrwyiedig i'r bobl leol. Rwyf wedi adnabod Heledd ers sbel bellach ac mae ganddi ddealltwriaeth wych o'r anghenion gwledig. Mae'r ddeuddeg mlynedd diwethaf wedi profi fod pobl Sir Drefaldwyn angen AS brwdfrydig fydd yn gweithio'n galed ar eu rhan a does gen i ddim amheuaeth mai Heledd ydi'r person yna.

Nerys Evans AC/ AM

"Seren newydd Plaid Cymru."

Adam Price MP/ AS